Adeiladwyd Y Plas dros gyfnod o 200 mlynedd mewn gwirionedd, gan ychwanegu’r tu blaen ym 1853.

Ei enw oedd Greenfields ar y dechrau, ac fe’i prynwyd gan John Edwards, twrnai ym Machynlleth. Ehangodd ei fab, ( ‘Syr’ yn ddiweddarach) John Edwards yr ystâd, ac ym 1825 priododd wraig weddw, Mrs. Harriet Herbert a ganwyd iddynt ferch, Mary Cornelia, a etifeddodd y cartref ar farwolaeth Syr John. oldmach

Ym 1846 priododd Mary Cornelia George Henry Robert Charles William Vane Tempest, 5ed Ardalydd Londonderry. Ym 1884, etifeddwyd Y Plas gan eu mab, Charles, Is-iarll Castlereagh, a’r 6ed Ardalydd, ond ni ddefnyddiodd ef erioed mo’r Plas fel ei brif gartref.

Ym 1886 ymwelodd Edward, Tywysog Cymru â’r ardal gan letya yn Y Plas. Yna ym 1911 daeth tro’r Brenin Siôr V, y Frenhines a Thywysog a Thywysoges Cymru.

Yn ystod y blynyddoedd canlynol, bu llawer o ddigwyddiadau pwysig yn ac o gwmpas Y Plas, a’r mwyaf arwyddocaol ohonynt i bobl y dref ym 1948 pan gyflwynwyd Y Plas a’r Tir o’i gwmpas i Fachynlleth gan y 7fed Ardalydd.

Yn dilyn y gymynrodd, defnyddiwyd Y Plas fel swyddfeydd cyngor am nifer o flynyddoedd, yn gyntaf gan Gyngor  Dosbarth Trefol Machynlleth, (a sefydlwyd dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1894).

Diddymwyd y Cyngor Dosbarth Trefol ym 1974, yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, gyda Chyngor Tref Machynlleth yn cymryd ei le o dan Gyngor Dosbarth Maldwyn. Parhaodd y Cyngor i gwrdd yn Y Plas hyd nes y lluniwyd Arddangosfa Celtica ym 1996.  derry

Hefyd, ym 1996, diddymwyd Cyngor Dosbarth Maldwyn o dan ad-drefnu llywodraeth leol a chymrwyd ei le gan Gyngor Sir Powys a ddaeth yn berchen ar Y Plas.

Caewyd Arddangosfa Celtica yn 2006, ac yn 2007 agorwyd trafodaethau rhwng Cyngor Tref Machynlleth a Chyngor Sir Powys ynglŷn â dyfodol Y Plas.

Ar Ebrill 1af, 2008 daeth Y Plas o dan reolaeth Cyngor y Dref, gan ddychwelwyd yr ystâd i’r Dref yn ôl dymuniad cymynrodd 1948.

Engrafiad o'r 6ed Marquess of Londonderry cyhoeddedig yn 1886
Hanes

 

 

 
 
Hosted & Design by CCW Solutions Ltd