Mae Y Plas, Machynlleth yn darparu amgylchedd gwaith gwych ar gyfer eich holl anghenion yddfa.
Wedi’i leoli yng nghanol parc hyfryd gyda mynydd-dir mwyn Canolbarth Cymru’n gefndir iddo, mae’r adeilad rhestredig Gradd ll hwn yn cynnig cyfleusterau cynhadledd heb eu hail a swyddfeydd i’w rhentu mewn amgylchedd sy’n sicr o wella’r profiad o weithio.
Yn wir, mae’r Plas yn lleoliad unigryw ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Pe byddech am drefnu Cynhadledd, Derbyniad, Digwyddiad Corfforaethol neu Achlysur Preifat, gall Y Plas gynnig darpariaeth ar gyfer eich holl anghenion.
Gyda staff ymroddedig ac ystafelloedd addas ar gyfer digwyddiadau yn ystod y dydd neu fin nos, mae’r Plas yn ymfalchïo yn yr ystyriaeth a roddir i fanylion a a gwasanaeth cwsmeriaid.

| Hafan | |
Y Plas Machynlleth |
|
|
|
. |