Mae gan Y Plas 4,360 tr.sg. (405 metrau sgwâr) o ofod swyddfeydd, i’w cael ar dri llawr, i’w rhentu ar drwydded neu ar les.

Mae Trwydded yn cynnig rhentu o 1 mis i 12 mis. Byddai’r gost yn cynnwys gwresogi, golau, trethi, dŵr a charthffosiaeth, casglu sbwriel, glanhau mannau cymunol, atgyweirio’r adeiladwaith, yswiriant adeilad a’r defnydd o’r  gegin fach. Mae trwydded yn cynnwys derbyniad llawn a gwasanaeth negeseuon, mynedfa rydd i un o’r tair ardal derbyn a mynediad i ryngrwyd WiFi yn y brif dderbynfa trwy ddefnyddio tocynnau a werthir ar y ddesg flaen.  office2

Mae Lesau am ddwy flynedd neu fwy i’w cael fel dewis arall. Gyda les, mae cleientiaid yn talu canran tuag at y trydan, nwy, trethi, glanhau’r mannau cymunol, casglu sbwriel ac yswiriant adeilad yn seiliedig ar faint eu hystafelloedd mewn troedfeddi sgwâr. Mae gwasanaeth derbynfa a’r defnydd o gyfleusterau cegin fach ar eu llawr yn gynwysedig. Bydd gan lesddaliwr fynedfa rydd i un o’r tair ardal derbyn a mynediad i ryngrwyd WiFi yn y brif dderbynfa trwy ddefnyddio tocynnau a werthir ar y ddesg flaen.

  wifi  

A phan fyddwch angen toriad, beth am fachu paned o de neu goffi

Dolen

o

Fwyty’r Plas

ar y llawr cyntaf

Rhentu Swyddfeyff

 

 

 
 
Hosted & Design by CCW Solutions Ltd