Bwyty Plas Restaurant
Yn agored saith dydd o’r wythnos, mae’r bwyty’n cynnig bwydlen amrywiol a syml i’r ymwelydd am brisiau rhesymol, gyda phwyslais ar flas.
Mae’r fwydlen ddwyieithog yn adlewyrchu’r ffaith bod cymaint ag sy’n bosibl o’r cynhwysion yn rhai lleol, ac nid yn unig yn dangos parch i’r cysyniad o gefnogi’r economi leol, ond hefyd yn cwtogi ar “filltiroedd bwyd” ar adeg pan ddylai materion amgylcheddol fod ar frig pob agenda.
Mae’r bwyty’n gwasanaethu’r cyfleusterau cynhadledd sydd yn Y Plas hefyd, ac mae’r uchelgais tymor byr yn cynnwys agor bistro gwin unwaith neu ddwy'r wythnos ar fin nos.
O’r person busnes yn y dref sy’n taro i mewn i ddefnyddio’n cyfleuster WiFi a bachu coffi bach, i drefnwyr cynadleddau a phartïon, Y Plas yw’r lle i fod a’r lle i fwyta.
| Bwyty | |
Y Plas Machynlleth |
|
|
|
|