GWASANAETH BLWCH POSTIO

Ydych chi angen cyfeiriad proffesiynol i’ch busnes?

Mae’r Plas yn gallu cynnig gwasanaeth blwch postio lle y gallwch ddefnyddio ein cyfeiriad ni fel eich cyfeiriad busnes. Bydd pob post yn cael ei gadw yn ein prif swyddfa i chi’I gasglu unrhyw adeg rhwng 9yb a 5.30yp, Dydd Llun i Ddydd Gwener.

GWASANAETH ATEB Fyddwch chi i ffwrdd oddi wrth y ffôn ac yn methu ateb eich galwadau busnes o bryd i’w gilydd?

Mae’r Plas yn gallu cynnig gwasanaeth ateb ffôn. Rhowch ein rhif ffôn ni i’ch cleientiaid, a phan fyddant yn galw gallwn ni dderbyn negeseuon ganddynt. Gallwn hyd yn oed roi eich rhif eich hunan i chi ac ateb gydag enw eich cwmni chi. Gallwn deilwra’r gwasanaeth hwn i ateb eich gofynion a gallwn e-bostio unrhyw negeseuon, eich galw ar amser penodedig neu roi rhif  i’ch cleientiaid fedru cysylltu â chi.

Cysylltwch  NI RŴAN i drafod eich ANGHENION

 

Anghenion (Dolen)

Swyddfa Rithwis

 

 

Y Plas Machynlleth
 
 
Design by Powys Web Hosting part of the Computersurgeon group